Abergele Cymraeg Pensarn a Llansan Sior

Abergele St  George Village 1910S

Hanes

Roman
Bridge Street Abergele C1875 National Library Of Wales
Pensarn Beach Bathing
12172686184 38Fe194183 O
12172878776 985Cffb186 O
Afa1E75Eb1177112Bd3Bb86F384F3Aba

Mae mab mwyaf adnabyddus Abergele wedi disgrifio ei famwlad fel hyn:

‘Mae tref Abergele ar gyrion Dyffryn Clwyd, yng ngogledd Cymru, ger cyffordd y mynyddoedd a'r môr. Yma mae modd gweld ar gip cadwyn o fryniau coediog, môr eang gyda sawl llong arni, a gwastatir eang sy'n debyg i fap lliwgar ym mis Awst. Mae afon fordwyol yn rhannu'r gwastatir fel rhesen mewn gwallt tenau. Tydy'r dref ei hun ddim yn ddeniadol iawn nac yn fawr iawn, ond mae ganddi safle dymunol iawn a'i chyffiniau yn hardd iawn, gyda llawer o dai newydd ar raddfa fawr wedi'u hadeiladu er mwyn darparu llety i'r ymwelwyr gaiff eu denu yma bob haf gan yr amrywiaeth o olygfeydd ac yn arbennig ei thraethau enwog.'

Roedd hynny yn 1870, ac roedd y tai newydd hyn wedi'u hadeiladu ym Mhensarn yn syth ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yn 1848. Fel arall, buasai'r dref wedi parhau i haeddu disgrifiad Dr Johnson ohoni gan mlynedd yn ddiweddarach: 'Tref fach gas lle siaredir ychydig ond Cymraeg a phrin y ceir oedfa mewn Saesneg'. Fel canolfan farchnata, mewn gwirionedd roedd hi'n dref un stryd, a hyd a lled y stryd honno yn ddigonol i gynnal ffeiriau a marchnadoedd, gan fynd ar hyd Stryd y Farchnad a Stryd y Bont, o Westy'r Bee at adeiladau Plas Newydd.

Er iddi dyfu i fod yn dref farchnad bwysig, does gan Abergele yr un siarter. Nac ychwaith allwn nodi dyddiad penodol ar gyfer sefydlu'r eglwys. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer yr eglwys yn San Siôr. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod yr Esgob Elfod o Fangor wedi rhoi darn o dir i'r eglwys ar lannau afon Gele mor gynnar â'r 8fed ganrif. Mae'n rhaid dyfalu am ba mor hir cyn cyfnod Elfod oedd yr eglwys wedi'i sefydlu yma. Roedd atyniadau'r dref yn annog pobl i anheddu yma, yn bennaf y cyflenwad dŵr ffres o afon Gele a'r diogelwch o ddifrod y môr oedd i'w gael drwy ei lleoliad ychydig yn uwch na'r môr.

Abergele History 1981 2
Abergele St  George Village 1910S
St Michael S Church Abergele
St George Church

LLYFRYN HANES ABERGELE A WICIPEDIA

Darllenwch a lawrlwythwch Hanes Abergele, wedi'i ysgrifennu yn 1981.
Mwy am Abergele ar Wicipedia.

Roman Balkans

BETH WNAETH Y RHUFEINIAD ERIOED AR EIN CYFER?

Roedd samplo genetig diweddar yn datgelu bod gan 38.9% o ddynion Abergele genynnau yn gyffredin gyda phobl yn y Balcanau - mae'n debyg gan fod y llengoedd Rhufeinig oedd yma 2,000 o flynyddoedd yn ôl wedi dod o beth oedd yn arfer bod yn Iwgoslafia.

Traincrash
The 1868 Rail Disaster Memorial   Geograph Org Uk   377402

DAMWAIN DRÊN FAWR ABERGELE

Bu i Ddamwain Drên Abergele yn 1868 ladd 33 o bobl - y gwaethaf ar gofnod bryd hynny. https://en.wikipedia.org/wiki/Abergele_rail_disaster

Guides And The Tigray Escarpment Ethiopia 7010819331

YR ABERGELE ARALL

Mae Abergele arall - yn Ardal Tigray yn Ethiopia, gogledd Affrica. Ond cyd-ddigwyddiad llwyr ydy hynny! Ewch i Wicipedia.

Gwrych Castle 3
Gwrych Castle 2
Gwrych Castle View From Pentre Mawr Park 1

CASTELL GWRYCH - YSBRYDOLI AC ADFER

Caiff castell arbennig Abergele a'i gerddi eu hadfer yn raddol. Mae ar agor trwy gydol y flwyddyn ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau. Yn sicr mae'n werth mynd yno.

Mwy ar Wicipedia

Ewch i dudalen Hanes Castell Gwrych.

Ewch i Gastell Gwrych ar ein tudalen Gwerth eu Gweld.

Pg 16 Endangered Buildings 1 Pa
1932 Kinmel School Abergele Denbighshire Headmaster Mr R A Gordon Cane Advert

NEUADD KINMEL - TRASIEDI

Plasty rhestredig Gradd 1 i'r dwyrain o San Siôr oedd unwaith yn dwyn yr enw 'Palas Versailles Cymru'. Y tŷ mwyaf i oroesi yng Nghymru - ond dim ond cael a chael. Yn ddiweddar mae'r Gymdeithas Fictoraidd wedi'i enwi yn un o'r 10 adeilad Fictoraidd ac Edwardaidd sydd mewn perygl fwyaf ym Mhrydain. Wedi cau ac yn ysbeilio ac adfeilio mwy a mwy. Does dim hawl ymweld â'r lle. Hynod o drist. Ewch i Wicipedia.

Img 0166
Endeavour 1

LLONGDDRYLLIAD ENDEAVOUR

Mae'r llongddrylliad teimladwy hwn yn ymddangos ac yn diflannu gyda thywod symudol Traeth Pensarn. Mae'n debyg mai'r Endeavour ydy hi - gafodd ei dal mewn gwyntoedd cryfion a'i chwythu wrth y lan yn Abergele ar 4 Hydref 1854. Roedd yr Endeavour yn slŵp bren gafodd ei hadeiladu yng Nghaer yn 1817 - 35 tunnell, 45 troedfedd o hyd x trawst 13.5 troedfedd.

Eagle Wreck
138436 Eagle 525143

LLONGDDRYLLIAD YR ERYR

Wedi'i cholli oddi ar Draeth Pensarn, roedd yr ERYR yn un o'r llongau gafodd ei malu yn racs yn ystod y gwyntoedd cryfion wnaeth suddo'r Royal Charter (yn y llun) ar 25-26 Hydref 1859. Yn deimladwy iawn, cofnodwyd canlyniadau'r golled yng ngeiriau'r meistr ei hun mewn llythyr ysgrifennodd at olygydd y papur newydd Caernarvon and Denbigh Herald, yn diolch i bobl Abergele a Llandrillo yn Rhos am eu haelioni a'u caredigrwydd tuag at ei griw llongddrylliedig. Darllenwch y llythyr yma.

Img 8779
Img 8778
Img 8777

Y DYN OEDD YN BYW 3 MILLTIR I'R GOGLEDD O ABERGELE?

Oedd yna ddyn oedd wirioneddol yn byw 3 milltir i'r gogledd o Abergele - tuag at y ffermydd gwynt heddiw - fel mae'r garreg goffa hon ym mynwent Eglwys Sant Mihangel yn ei honni? Mae arfordir Pensarn a Belgrano yn sicr wedi encilio dros y canrifoedd. Weithiau, mae modd gweld hen fonion coed pan fydd y llanw'n isel ac roedd o leiaf un bwthyn ar beth sydd bellach yn draeth.

Darllenwch fwy am y dirgelwch yma:

Lost To The Sea

word, 19408bytes

Download Lost To The Sea

Tanysgrifiwch i Cylchlythyr

Derbyn PDFs o Gylchlythyr Cyngor Tref Abergele trwy e-bost?