Shapingconwyscommunities
Y Dyfodol - Cynllun Cynefin Abergele
Mae newidiadau mawr ar y gorwel yn Abergele wrth i Gynllun Cynefin Abergele ddod i rym. Cynllun Cynefin Abergele ydy'r cyntaf o'i fath ym Mhrydain a dyma'r cynllun peilot i eraill ei ddilyn. Mae newidiadau sylweddol i ganol y dref, rheolaeth traffig a gwella profiad ymwelwyr wedi'u cynllunio.
Ar ôl cyfnod o ymgynghori gyda'r Cyngor Tref, preswylwyr ac asiantaethau lleol eraill yn ystod Haf 2016, caiff cynllun er mwyn gwella a chyfoethogi isadeiledd ac amgylchedd naturiol Abergele ei lunio er mwyn gwneud y mwyaf o'r arian gaiff ei gynhyrchu o ganlyniad i dri chynllun tai mawr.
Conwy Place Plan Poster
Abergele Place Plan Towncentre En
Abergele Place Plan Towncentre Cy
Abergele Town Centre Study
Abergele Place Plan Framework April 2019Clt
Oes arnoch chi angen darllenydd PDF? Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader AM DDIM.
Mae datblygiad o 600 o dai yn ne-ddwyrain Abergele ar fynd ac yng ngogledd-orllewin y dref bydd 158 o dai pellach hefyd yn cael eu hadeiladu. Bydd datblygiad llai o 54 o dai yn trawsnewid safle adfeiliedig Tŷ Gainsborough i'r de.
Mae'r posibilrwydd o gynyddu'r boblogaeth yn cyflwyno cyfleoedd newydd i fusnesau dyfu yn yr ardal a chyrraedd marchnad ehangach. Bydd twf masnachol yn annog mwy o ymwelwyr i Abergele gan ei wneud yn lleoliad y mae'n 'rhaid mynd iddo' yn enwedig gan ei fod ar stepen drws un o'r Parciau Cenedlaethol harddaf yn Ewrop.