120719 Atc Annual Report 2018 19
Ynglŷn â Chyngor Tref Abergele
Cyngor Tref Abergele
Cyflwyniad byr
Cyn 1974 roedd Abergele yn Gyngor Ardal Drefol yn sir hanesyddol Dinbych. Crëwyd Cyngor Tref Abergele yn 1974 yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol a diddymu Cyngor Ardal Drefol Abergele. Yn ystod yr ad-drefnu yn 1974 roedd yr ardal a wasanaethid gan Gyngor Tref Abergele yn cynnwys Llanddulas a Rhyd-y-Foel i'r gorllewin, a Thywyn a Bae Cinmel yn y dwyrain. Yn dilyn adolygiad gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru fe rannwyd yr ardal a wasanaethid gan Gyngor Tref Abergele i dair cymuned newydd yn 1983 - Llanddulas a Rhyd-y-Foel, Tywyn a Bae Cinmel, ac Abergele. Ers 1996 mae Abergele wedi bod yn un o 33 cyngor cymuned yn sir newydd Conwy. Mae ganddo statws cyngor tref gyda maer y dref.
Mae gan Abergele boblogaeth o 10,577 (Cyfrifiad 2011) ac ar gyfer llywodraeth leol fe rennir y dref i bedair ward. Mae gan y dref 16 cynghorydd yn cynrychioli'r wardiau canlynol - Gele (6 chynghorydd), Pensarn (3), Pentre Mawr (6), Llan San Siôr (1). Etholwyd y cynghorwyr presennol yn 2017 i wasanaethu am bum mlynedd.
Yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai bydd y Cyngor yn ethol Maer y Dref a Dirprwy Faer. Bydd y Maer yn derbyn lwfans ar gyfer costau yn ymwneud â dyletswyddau dinesig. Nid yw cynghorwyr yn derbyn tâl am eu hamser, ond gallant hawlio tâl am dreuliau ychwanegol, megis teithio y tu allan i ardal cyngor y dref. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cyflogi tri aelod o staff - Clerc y Cyngor, cynorthwywr gweinyddol rhan-amser a gofalwr/glanhawr.
Fel arfer mae Cyngor Tref Abergele yn cyfarfod ddwywaith y mis, ar wahân i fis Awst. Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd y Dref, Ffordd Llanddulas, Abergele, ac fel arfer maent ar y nos Iau cyntaf a'r trydydd o'r mis, gan ddechrau am 6.45y.h. Gwelwch dudalen 'Cyfarfodydd Cyngor ac Agenda' am ddyddiadau cyfarfodydd i ddod.
Mae'n ofynnol ar y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyhoeddi a darparu manylion o'r wybodaeth sydd ar gael yn rheolaidd i'r cyhoedd. Defnyddiwch y dolenni cyswllt canlynol i weld y cynllun cyhoeddi cyfredol a chrynodeb o'r wybodaeth sydd ar gael.
Adroddiad Blynyddol Cyngor Tref Abergele 2018 - 2019 - cliciwch yma
Canllawiau Statudol - Mynediad at Wybodaeth am Gynghorau Tref a Chymuned (Mai 2015) - cliciwch yma
Archebion Rheolaidd Cymeradwyedig 2016 - cliciwch yma
Model Cynllun Cyhoeddi (mabwysiadwyd ar y 4ydd o Ragfyr 2008) - cliciwch yma
Cyhoeddiadau sydd ar gael - cliciwch yma
Polisi Preifatrwydd - cliciwch yma
Hysbysiad Preifatrwydd - cliciwch yma
Polisi Rhyddid Gwybodaeth - cliciwch yma
Ffurflen Gais Rhyddid Gwybodaeth - cliciwch yma
Gellir cael mwy o fanylion am waith y Cyngor Tref gan Glerc y Cyngor,
Mandy Evans, Clerc y Cyngor a Swyddog Cyfrifoldeb Cyllid
Model Publication Scheme
Information Available
Freedom Of Information Form
Freedom Of Information
241017 Approved Standing Orders 2016
120618 Atc Privacy Policy
120618 Atc Privacy Notice
040116 Access To Information
NODAU AC AMCANION
Datganiad o Fwriad
Fel llais democratig cymunedau Abergele, bydd y Cyngor yn gweithio tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy a bywiog yn economaidd, a chymdeithas sy'n iach a diogel, ac yn gymdeithasol gyflawn.
Diben
- Hyrwyddo a chynrychioli barn y gymuned.
- Gwasanaethu'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn Abergele, a'r rhai sy'n ymweld â'r dref.
- Hyrwyddo treftadaeth hanesyddol a diwylliannol Abergele, a diogelu ei hamgylchedd naturiol a'i hadeiladau.
- Gweithio mewn partneriaeth â phob corff arall, boed yn statudol, cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gymunedol er mwyn gwella ansawdd byw a lles y gymuned, a hyrwyddo'r dref mewn modd gweithredol a chadarnhaol.