Abergele Cymraeg Pensarn a Llansan Sior

Y Maer


Fe gymerodd Maer Abergele, y Cynghorydd Shirley Jones-Roberts, ei llw'n swyddogol ddydd Iau, Mai 9fed, 2019. Cynhaliwyd y seremoni yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Dref, Ffordd Llanddulas, Abergele.

Os dymunwch wahodd y Maer i ddigwyddiad, a wnewch chi lawrlwytho ffurflen a'i anfon drwy:

E-bost at: info@abergele-towncouncil.co.uk

neu'r

Post at
Anrhydeddus Faer Abergele, y Cyng. Shirley Jones-Roberts
Cyngor Tref Abergele
Ffordd Llanddulas
Abergele
LL22 7BT

Dyddiadur y Maer

calendar

Ymrwymiadau i'w cyflawni gan Faer Abergele:
(Dyddiadau a Dolen Gyswllt)

Ffurflen Archebu'r Maer

calendar

Swydd y Maer
Mae'r Maer yn cael y flaenoriaeth dros bawb yn y dref. Y Maer yw prif ddinesydd Abergele, yn cynrychioli'r Cyngor, pob grŵp gwleidyddol a phobl Abergele. Mae'r Maer yn 'Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus' i'r dref, a rhaid iddo/iddi fod yn anwleidyddol bob amser yn ystod ei dymor/thymor fel Maer. Yn rhinwedd ei swydd, bydd y Maer yn llywyddu yng nghyfarfodydd y Cyngor, a'i gyfrifoldeb o/ei chyfrifoldeb hi fydd cadw trefn, rheoli ymddygiad trafod, a dilyn y canllawiau a amlinellir yn Rheolau Sefydlog y Cyngor.
Yn ogystal â chadeirio cyfarfodydd y Cyngor yn Siambr y Cyngor bob mis bydd y Maer yn:

  • Agor digwyddiadau a gynhelir yn y dref a rhoi croeso dinesig

  • Cynnal amrywiol ddigwyddiadau a Derbyniadau Dinesig

  • Cefnogi pobl chwaraeon y dref (ymweld â, neu gychwyn digwyddiadau, cyflwyno gwobrau, a.y.y.b.)

  • Agor gwahanol ddigwyddiadau (garddwestau ysgolion, busnesau newydd,a.y.y.b.)

  • Bod yn bresennol mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau (Dyddiau Agored, cyflwyniadau ysgolion/colegau, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, Ciniawau, digwyddiadau dinesig yn y gymdogaeth, a.y.y.b.)

  • Ymweld â nifer o bobl y dref i ddathlu achlysuron arbennig (e.e. pen-blwyddi 100 oed, a.y.y.b.)

Swydd y Dirprwy Faer
Caiff Dirprwy Faer hefyd ei ethol/hethol. Swydd y Dirprwy Faer yw cyflawni'r uchod yn absenoldeb y Maer.

Swydd y Faeres / Cymar/Cymhares y Maer

Ar ôl cael ei ethol/hethol gan ei gyd/chyd-gynghorwyr i'r swydd, fe all Maer newydd ddewis Maeres neu Gymar/Gymhares i fynd gydag ef/hi i weithgareddau a digwyddiadau yn ystod cyfnod ei swydd, a'i gynorthwyo/chynorthwyo i drefnu croesawiadau ac achlysuron codi arian at achosion da.


Swydd Caplan y Maer
Mae Caplan y Maer, a ddewisir gan y Maer newydd ar ôl ei benodiad ef/ ei phenodiad hi, yn gofalu am anghenion ysbrydol y Maer, gan gynorthwyo a gwasanaethu yng Ngwasanaeth Dinesig y Maer, a hefyd yn aml mewn gwasanaethau eraill yn ystod blwyddyn ei swydd. O dro i dro bydd y Caplan yn mynd gyda'r Maer i weithgareddau pan fydd hynny'n briodol.
Os bydd gennych achos i gysylltu gyda Maer Abergele, efallai i'w wahodd/i'w gwahodd i fod yn bresennol neu i wasanaethu mewn digwyddiad y byddwch yn ei gynnnal, neu am unrhyw reswm arall, gellir gwneud hynny fel a ganlyn:


Drwy'r Post
Anrhydeddus Faer Abergele, y Cyng. Shirley Jones-Roberts
Cyngor Tref Abergele
Ffordd Llanddulas
Abergele
LL22 7BT

Ffôn: 01745 833242
E-bost: info@abergele-towncouncil.co.uk

Tanysgrifiwch i Cylchlythyr

Derbyn PDFs o Gylchlythyr Cyngor Tref Abergele trwy e-bost?