Llogi Ystafelloedd
Mae gan y Cyngor Tref nifer o ystafelloedd ar gael i'w llogi yn Neuadd y Dref a Swyddfeydd y Cyngor, Ffordd Llanddulas, Abergele. Mae yno fynediad i'r anabl yn ogystal â thoiled i'r anabl.
Crynodeb o Ffioedd a Chostau - Ar gael o 01/04/2019 (adolygir yn flynyddol)
Y Brif Siambr
Mae'r Brif Siambr yn hen ystafell lys deniadol gyda phaneli pren. Mae ar gael ar gyfer gwrandawiadau a chyfarfodydd ac mae lle i 60 person yno'n gyfforddus. Mae microffonau Desktop a System Dolen Glyw yn y Brif Siambr.
sesiwn ½ diwrnod** neu gyda'r nos (hyd at 4 awr) £59.95, Diwrnod llawn £119.95
Ystafell 4
Mae lle i hyd at 25 person gyfarfod yn yr ystafell lys lai.
sesiwn ½ diwrnod** neu gyda'r nos (hyd at 4 awr) £49.95, Diwrnod llawn £99.95
Ystafelloedd 5 neu 6
Mae dwy ystafell lai hefyd ar gael, yn addas ar gyfer cyfarfodydd gyda hyd at 10 person.
sesiwn ½ diwrnod** neu gyda'r nos (hyd at 4 awr) £42.50, Diwrnod llawn £84.95
* Mae paned wedi'i gynnwys yn y pris (nodwch ar y ffurflen archebu faint o bobl fydd angen paned)
** Nodwch ydy'r sesiwn yn ystod y bore (hyd at 4 awr), gyda'r pnawn (hyd at 4 awr) neu gyda'r nos (hyd at 4 awr)
Cliciwch i lawrlwytho'r amodau a thelerau llogi (defnydd cyffredinol) a/neu'r ffurflen archebu neu cysylltwch gyda Neuadd y Dref i holi ydy unrhyw ystafell ar gael drwy anfon e-bost at info@abergele-towncouncil.co.uk neu drwy ffonio 01745 833242