Abergele Cymraeg Pensarn a Llansan Sior

Cynllunio a Thrwyddedu

Cynllunio

Mae'r Cyngor Tref yn ymgynghorai statudol ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau yn ardal Abergele. Mae'r Cyngor yn derbyn copïau o geisiadau cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn eu hystyried ddwywaith y mis yn ei gyfarfodydd Arferol a phwyllgor Dibenion Cyffredinol a Chynllunio. Edrychwch ar agenda cyfarfodydd sydd i ddod am fanylion y ceisiadau sydd i'w hystyried. Mae manylion unrhyw geisiadau sydd wedi'u hystyried mewn cyfarfodydd blaenorol, gan gynnwys sylwadau'r Cyngor, i'w cael yn Atodiad A ar ddiwedd y Cofnodion.

Rhaid nodi mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd â'r pŵer statudol i benderfynu ar geisiadau cynllunio, nid y Cyngor Tref.

I weld y rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio neu'r rhestr bythefnosol o benderfyniadau cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sir Conwy, cliciwch yma.


Am wybodaeth a chyngor ar gyflwyno cais, neu i lawrlwytho'r ffurflenni cais, cliciwch yma.

Trwyddedu

Dan amodau Deddf Trwyddedu 2003, nid yw'r Cyngor Tref yn ymgynghorai statudol a gall gyflwyno sylwadau ar faterion trwyddedu dim ond pan fydd gofyn iddo wneud hynny gan bobl sy'n byw gerllaw i'r eiddo y mae'r cais yn gysylltiedig ag o. Mae'n rhaid rhoi hysbysiadau ar yr eiddo a'u cyhoeddi yn y wasg leol i roi gwybod i gymdogion bod cais trwyddedu wedi'i gyflwyno.

Tanysgrifiwch i Cylchlythyr

Derbyn PDFs o Gylchlythyr Cyngor Tref Abergele trwy e-bost?