Abergele Cymraeg Pensarn a Llansan Sior

Clwb Foodshare Pensarn

Cynllun rhannu bwyd cymunedol yng Nghanolfan Dewi Sant

Mae'r Clwb FoodShare yn Hen Golwyn, Pensarn a'r Rhyl yn rhoi gwerth hyd at £15 o fwyd i'w aelodau yn gyfnewid am dâl aelodaeth o £3.50 yr wythnos.

Bydd y bwyd yn gyfuniad o:

  • Eitemau bwyd wedi'u cyfrannu - wedi'u prynu gan bobl sy'n cefnogi FoodShare;
  • Bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad 'ar ei orau cyn', ond dal yn addas i'w fwyta yn ddiogel;
  • Bwyd dros ben wedi'i gyfrannu gan archfarchnadoedd lleol - gall fod yn stoc wedi'i ddifrodi (tuniau tolciog neu becynnau allanol wedi'u torri, er enghraifft), neu gall fod yn agos at neu wedi mynd heibio ei ddyddiad 'ar ei orau cyn' fel yr uchod.
  • Eitemau bwyd wedi'u prynu gan FoodShare mewn llwyth gan ddosbarthwyr neu o stordai gostyngiadau.

Gall unrhyw un o ardaloedd Bae Colwyn / Hen Golwyn, Abergele a Phensarn neu'r Rhyl a'r ardaloedd cyfagos ymaelodi - y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydy galw heibio, cofrestru a chasglu eich bwyd bob wythnos! Fe allwch chi hefyd gefnogi FoodShare drwy gyfrannu bwyd yn ein gwahanol fannau cyfrannu a chasglu.

Email

Website

Facebook

Map

07975 543020

Canolfan Dewi Sant, Rhodfa'r De, Pensarn, LL22 7RG

Tanysgrifiwch i Cylchlythyr

Derbyn PDFs o Gylchlythyr Cyngor Tref Abergele trwy e-bost?