Golff
Mae gan Glwb Golff Abergele gwrs 18 twll arbennig a thŷ clwb ardderchog gyda bwyty
Cafodd cwrs 18 twll Abergele ei ffurfio yn 1910. Mae yno gyfleusterau arlwyo a bar ac ystafell i'w llogi ar gyfraddau cystadleuol gyda golygfeydd godidog.
Caiff ei ystyried yn un o'r cyrsiau mwyaf darluniadwy yng Nghymru gyda golygfa arbennig yn y cefndir o gastell hanesyddol Gwrych. Mae Clwb Golff Abergele yn parhau i fod yn un o'r ffefrynnau ymysg aelodau a'r rheiny sy'n dewis ymweld o bob cwr o'r byd golff. Bu i'r cwrs symud i'w safle presennol yn 1968.
Mae Clwb Golff Abergele wedi cadw ei enw da drwy ddatblygu gwelliannau arloesol ar bob cyfle, sy'n amlwg o'r prosiect enfawr sydd wedi'i gwblhau oedd yn cynnwys adeiladu lawntiau newydd at y safonau USGA diweddaraf dan ofal y pensaer cwrs David Williams o Golf Design a gwaith adlunio dan oruchwyliaeth G. Shiels & Associates.
Mae polisi'r clwb hefyd wedi rhoi ystyriaeth arbennig i sicrhau amodau chwarae mwy ffafriol i olffwragedd. Mae ein cyfleusterau ymarfer a dysgu heb eu hail gyda chwrs ymarfer maint llawn gyda dwy lawnt ymarfer a phwll tywod, ardal pytio heriol ac ardal dan do i ymarfer mewn tywydd gwlyb.
Mae'r clwb wedi cofrestru fel Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC) ac yn croesawu chwaraewyr o'r gymuned gyfan.
CYSYLLTIADAU
01745 824034
Ffordd Tan-y-Gopa, Abergele, Conwy LL22 8DS