Noson Goffa D-Day80 a Seremoni Cynnau Ffaglau
6 Mehefin 2024
Nododd Cyngor Tref Abergele 80 mlynedd ers glaniadau D-Day gyda Seremoni Cynnau Ffaglau ym Mhromenâd Pensarn.
Dechreuodd y noson gyda gwasanaeth teimladwy yn eglwys Sant Mihangel, ac yna noson ddyrchafol, wedi'i chynnal gan Dilwyn Price, gyda Chôr Meibion Trelawnyd, Geoff a Peter Skellon, a'r Pib-uwchgapten, Neil Irons.
Am 9:15, fe wnaeth y Maer a Chynghorydd, Diane Green gynnau’r Ffagl wrth i'r deyrnged ryngwladol gael ei darllen